Delwedd:Afsluitdijk 1031.jpg, Afsluitdijk Netherlands Satellite Photo by Sentinel-2 30 June 2018.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | argae |
---|---|
Rhan o | Zuiderzee Works |
Dechrau/Sefydlu | 1932 |
Rhanbarth | Súdwest-Fryslân, Hollands Kroon |
Hyd | 32,500 metr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arglawdd mawr yn yr Iseldiroedd yw'r Afsluitdijk. Mae'n gwahanu yr IJsselmeer oddi wrth y Waddenzee ac yn cysylltu taleithiau Noord-Holland a Friesland ar hyd y briffordd Rijksweg 7.
Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu'r Afsluitdijk yn 1927, a chaewyd y llifddorau olaf yn 1932, gan droi'r Zuiderzee yn llyn, a gafodd yr enw IJsselmeer. O ganlyniad i adeiladu'r cob, adfeddiannwyd tiriogaethau helaeth oddi wrth y môr, a gelwir rhain y polder. Prif bensaer y cynlluniau hyn oedd Cornelis Lely.