Yr ansawdd sydd yn nodi sefyllfa o amrywiaeth a gwahaniaeth rhwng gwahanol ddiwylliannau yw amrywiaeth ddiwyllianol. Fe'i cyferbynnir â'r syniad o unddiwylliant. Gall yr ymadrodd amrywiaeth ddiwylliannol gyfeirio'n ogystal at ddiwylliannau gwahanol yn parchu gwahaniaethau ei gilydd. Weithiau, caiff amrywiaeth ddiwylliannol ei ddefnyddio i olygu amrywiaeth yng nghymdeithasau neu ddiwylliannau bodau dynol o fewn ardal benodol. Dywedir yn aml bod globaleiddio yn cael effaith negyddol ar amrywiaeth ddiwylliannol y byd, a bod homogeneiddio diwylliannau yn ffurf ar farwolaeth ddiwylliannol os nad imperialaeth ddiwylliannol. Mae dadl felly os yw amlddiwylliannaeth yn gyfystyr ag amrywiaeth ddiwylliannol neu yn groes iddi.
Mae sawl cymdeithas wahanol yn, ac wedi eu, gwahaniaethu o'i gilydd, sydd yn bodoli hyd heddiw. Yn ogystal a'r gwahaniaethau diwylliannol amlwg sy'n bodoli rhwng pobl fel iaith, gwisg a thraddodiad, y mae gwahaniaethau amlwg yn y ffordd mae cymdeithasau yn trefnu eu hunain, yn eu cysyniad o foesoldeb, a'r modd maent yn rhyngweithio o fewn eu hamgylchedd.
Yn ôl Datganiad Cyffredinol UNESCO am Amrywiaeth Ddiwylliannol, amrywiaeth ddiwylliannol yw "etifeddiaeth gyffredin y ddynolryw", ac "Ymgorfforir yr amrywiaeth hon yn yr unigrywiaeth a'r lluosogrwydd sydd yn perthyn i hunaniaethau'r grwpiau a'r cymdeithasau sydd yn ffurfio dynoliaeth [...] mae amrywiaeth ddiwylliannol yn yr un mor angenrheidiol i'r ddynolryw ag y mae bioamrywiaeth yn angenrheidiol i natur".[1]