Apollodorus | |
---|---|
Ganwyd | c. 180 CC Athen yr henfyd |
Bu farw | 120 CC Athen yr henfyd |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
Galwedigaeth | hanesydd, bardd, llenor, pensaer, mythograffydd, athronydd, ieithegydd |
Adnabyddus am | Chronicle |
Ysgolhaig, hanesydd, mytholegydd a gramadegwr o Roeg oedd Apollodorus (Groeg: Ἀπολλόδωρος), a elwir weithiau yn Apollodorus o Athen (tua 180 CC - ar ôl 120 CC).
Roedd yn fab i'r ysgolhaig Groegaidd Asclepiades. Roedd yn ddisgybl i Diogenes o Fabilon, Panaetius y Stoïg, a'r grammadegwr Aristarchus o Samothrace. Ar ôl gweithio am gyfnod yn ninas Alexandria bu rhaid iddo ffoi oddi yno tua'r flwyddyn 146 CC, efallai i ddinas Pergamum, ac oddi yno i Athen. Am gyfnod credid mai ef oedd awdur y Bibliotheca, y llyfr enwocaf ar fytholeg y Groegiaid, ond gwyddys erbyn hyn ei fod yn waith diweddarach.