Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Dod i'r brig | 2009 |
Dechrau/Sefydlu | 2009 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Candelas yn fand o Lanuwchllyn, Gwynedd, sy'n chwarae cerddoriaeth roc. Sefydlwyd y band yn 2009 a rhyddhawyd eu record fer gyntaf yn 2011 dan yr enw Kim Y Syniad.[1][2] Roedd y gerddoriaeth ar y record hon wedi ei ysbrydoli gan fandiau fel The Strokes a Kings of Leon ond roedd eu hail record (eu halbwm cyntaf a enwyd ar ôl y band) yn cynnwys cerddoriaeth galetach wedi ei hysbrydoli gan fandiau fel Arctic Monkeys, Queens of the Stone Age a Band of Skulls.
Ers 2013, maent yn ymddangos fel rhan o gynllun BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n datblygu cerddoriaeth fandiau newydd ac annibynnol yng Nghymru.[3]
Enillodd y band 3 gwobr yng Ngwobrau'r Selar am y Gân Orau, Record Hir Orau a'r Band Gorau. Adlewyrchodd hyn lwyddiant y band yn 2013 a'n sicr, roedd yn hwb i ddyfodol y grŵp. Rhyddhawyd eu hail albwm ar yr 8fed o Ragfyr, 2014, o dan yr enw Bodoli'n Ddistaw.
Enillodd y drymiwr Lewis Williams yr offerynnwr gorau yn ngwobrau y Selar 2013 am ei waith gyda Candelas a Sŵnami. Yn 2016 recordiodd y band ei fersiwn o'r gân "Rhedeg i Paris" fel 'anthem hâf' i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016.
Maent hefyd wedi bod yn weithgar yn Dydd Miwsig Cymru.