Enghraifft o'r canlynol | Apache, pobloedd brodorol yr Amerig |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp o fandiau cysylltiedig â phobl Apache a oedd yn byw ar un adeg yn yr hyn sydd heddiw yn New Mexico ac Arizona yn yr Unol Daleithiau a Sonora a Chihuahua ym Mecsico yw'r Chiricahua (hefyd Apaches Chiricahua, Chiricagui, Apaches de Chiricahui, Chiricahues, Chilicague, Chilecagez, Chiricagua). Dyma'r pwysicaf o'r grwpiau Apache a wrthsafodd y trefedigaethwyr 'gwyn' yr Unol Daleithiau yn ail hanner y 19eg ganrif. Siaradent yr iaith Chiricahua.