Mewn ieithyddiaeth, cyd-ddealltwriaeth[1] yw'r gallu sydd gan siaradwyr un iaith neu dafodiaith i ddeall iaith neu dafodiaith arall yn gymharol eglur, hynny yw, eu bod yn gyd-ddealladwy[1]. Efallai na fydd y cyd-ddealltwriaeth hwn yn gymesur, ac efallai bod siaradwr un iaith yn deall siaradwr y llall yn well na'r ffordd arall. Mewn ieithyddiaeth gyffredinol, mae cyd-ddealltwriaeth yn nodwedd sy'n disgrifio parau iaith. Ceir cyd-ddealltwriaeth pan all siaradwyr gwahanol ieithoedd ddeall ei gilydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol arbennig. Weithiau defnyddir cyd-ddealltwriaeth fel maen prawf wrth wahaniaethu rhwng ieithoedd a thafodieithoedd. Fodd bynnag, mae yna hefyd ffactorau sosioieithyddol sy'n effeithio ar gyd-ddealltwriaeth.