Ym Mytholeg Wyddelig, mae Danu (Hen Wyddeleg, ynganiad: /'dɑnu/ gyda "u" byr; Gwyddeleg Diweddar Dana /'dɑnə/) yn fam dduwies y Tuatha Dé Danann (Hen Wyddeleg: "Pobl y dduwies Danu"). Mae hi'n cyfateb i'r dduwies Dôn yng Nghymru. Er y gwelir hi'n bennaf yn ffigwr hynafiadol, mae rhai ffynonellau o'r 19eg ganrif yn ei chysylltu â'r ddaear.[1]