Math o bolygon yw dihedron wedi'i wneud o ddau wyneb polygon sy'n rhannu'r un set o ymylon. Mewn gofod Euclidean tri dimensiwn, caiff ei ddirywio (degenerate) os yw ei wynebau yn wastad; ond oddi mewn i ofod sfferig tri dimensiwn, gellir ystyried dihedron gydag wynebau gwastad fel lens. Hen enwau arno yw: 'bihedra' a 'polyhedra fflat'.[1]
Un dihedron rheolaidd yw hwnnw a ffurfiwyd gan ddau bolygon rheolaidd; gellir eu disgrifio gan y symbol Schläfli {n,2}.[2]
Diagram | |||||
Symbol Schläfli | {2,2} | {3,2} | {4,2} | {5,2} | {6,2}... |
---|---|---|---|---|---|
Coxeter | |||||
Wynebau | 2 {2} | 2 {3} | 2 {4} | 2 {5} | 2 {6} |
Ymylon a chorneli |
2 | 3 | 4 | 5 | 6 |