Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bern |
Gwlad | Y Swistir |
Uwch y môr | 3,967 metr |
Cyfesurynnau | 46.577608°N 8.005287°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 361 metr |
Rhiant gopa | Mönch |
Cadwyn fynydd | Jungfrau-Fiescherhorn Group |
Deunydd | calchfaen |
Mynydd 3,970 metr o uchder yn yr Alpau yw'r Eiger. Saif yn y Swistir, ar ben dwyreiniol crib sydd hefyd yn cynnwys copaon y Mönch (4,107 m) a'r Jungfrau (4,158 m). Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 11 Awst, 1858, gan y Gwyddel Charles Barrington gyda'r tywysyddion Swisaidd Christian Almer a Peter Bohren. Mae rheilffordd yr Jungfraubahn yn arwain trwy dwnel tu mewn i'r mynydd i gyrraedd bwlch y Jungfraujoch, yr orsaf reilffordd uchaf yn Ewrop.
Yr hyn sy'n gwneyd yr Eiger yn enwog yw'r wyneb gogleddol, y Nordwand mewn Almaeneg. Bu farw nifer o ddringwyr yn y 1930au yn ceisio ei ddringo, cyn i Anderl Heckmair, Ludwig Vörg, Heinrich Harrer a Fritz Kasparek ei ddringo ar 24 Gorffennaf, 1938.
Yn 1981, ffilmiwyd y dringwr Cymreig Eric Jones yn dringo'r wyneb gogleddol ar ei ben ei hun gan Leo Dickinson, ffilm a gyhoeddwyd fel Eiger Solo.
Y man cychwyn arferol ar gyfer dringo'r Eiger yw pentref Grindelwald wrth ei droed.