Mae'r Euskaltzaindia yn academi iaith swyddogol sy'n gyfrifol am warchod, dadansoddi, lledaenu, safoni a gwella'r Fasgeg, a sefydlwyd ym 1919. Gall fod hyd at 32 aelod llawn o'r academi (hyd at 2007, roedd uchafswm o 24 aelod) [1] ac, yn ogystal â'r aelodau hyn, mae nifer di-derfyn o aelodau gohebol ac aelodau anrhydeddus. Arwyddair yr Euskaltzaindia yw Ekin eta jarrai - "cychwyn a pharhau".
Sefydlwyd yr Euskaltzaindia gan bedair talaith deheuol Gwlad y Basg, ynghyd ag Eusko Ikaskuntza (Cymdeithas Astudiaethau Basgeg). Lleolir y pencadlys ar Sgwâr Barria yn hen dref Bilbao, ac mae swyddfeydd yn Gasteiz, Donostia , Iruñea a Baiona yn ogystal. Y prif ffynhonnell cyllid ar gyfer yr Euskaltzaindia yw grantiau, ac erbyn hyn pedwar corff cyhoeddus yw'r prif ariannwyr: y Llywodraeth Gwlad y Basg, Awdurdod Rhanbarthol Araba, Awdurdod Rhanbarthol Bizkaia ac Awdurdod Rhanbarthol Gipuzkoa.
Crëwyd Euskara Batua (Basgeg Unedig) yn y 1970au gan yr Euskaltzaindia, yn seiliedig yn bennaf ar dafodiaith ganolog y Fasgeg ac ar y traddodiad ysgrifenedig. Wedi i'r iaith cael ei gormesu ers canrifoedd gan awdurdodau Sbaen a Ffrainc, ac yn enwedig o dan reolaeth Franco pan gwaharddwyd yr iaith Fasgeg gan arwain at leihad sylweddol yn nifer y siaradwyr, roedd Academi yn teimlo bod angen creu math unedig o Fasgeg, fel bod gan yr iaith fwy o siawns i fyw.
Cynhaliwyd Cyngres Arantzazu yn 1968 mewn mynachdy, lle gosodwyd y canllawiau sylfaenol ar gyfer geirfa, gramadeg a sillafu. Cymerwyd cam pellach ym 1972 gyda chynnig i safoni rhediad berfau.
Er i ddadleuon godi ynglŷn â dyfeisio set newydd o reolau iaith safonol (1968-1976) cafodd Euskara Batua ei derbyn fwyfwy fel iaith safonol y Fasgeg mewn addysgu, y cyfryngau, a gweinyddiaeth (1976 -1983).