Coginio bwyd mewn braster neu olew poeth yw ffrio.[1][2] Y ddwy brif dechneg yw ffrio mewn padell fas dros dân, a ffrio mewn llestr dwfn gan drochi'r bwyd yn llwyr mewn olew poeth. Gan y defnyddir saim i wresogi'r bwyd, mae rhai yn ei hystyried yn dechneg o goginio sy'n defnyddio gwres sych.[3]
Caiff cigoedd brasterog megis bacwn a chig eidion mâl eu ffrio gan amlaf mewn eu toddion. Yn aml dodir cig gyda llai o fraster, pysgod, a llysiau mewn blawd neu gytew cyn eu ffrio. Yn ogystal â'r brasterau traddodiadol – toddion cig eidion, menyn a bloneg – defnyddir hefyd olewon corn, cnau a hadau i ffrio.[3]