Frinton-on-Sea

Frinton-on-Sea
Mathtref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolFrinton and Walton
Daearyddiaeth
SirEssex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.8327°N 1.2452°E Edit this on Wikidata
Cod OSTM236198 Edit this on Wikidata
Cod postCO13 Edit this on Wikidata
Map

Tref glan môr yn Essex, Dwyrain Lloegr, ydy Frinton-on-Sea.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Frinton and Walton yn ardal an-fetropolitan Tendring.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan yr ardal adeiledig boblogaeth o 4,687.[2]

Rhestrir y lle fel Frientuna yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[3] Cyn y 19g roedd Frinton yn bentref syml yn cynnwys eglwys ac ychydig o ffermydd a bythynnod. Ond yn ystod y 1890au fe'i datblygwyd yn gyrchfan glan môr bonheddig, gyda thai o ansawdd da ond heb dai preswyl na thafarndai. Cafodd y dref gwrs golff, clwb tennis pwysig, gwestai o safon uchel, a lido. Yn hanner cyntaf yr 20g denodd y dref ymwelwyr o'r cylchoedd uchaf. Mae ganddo bromenâd gyda channoedd o gytiau traeth ar hyd traeth tywodlyd a cherrig hir sy'n addas ar gyfer nofio.

  1. British Place Names; adalwyd 12 Gorffennaf 2019
  2. City Population; adalwyd 12 Gorffennaf 2019
  3. Frinton yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)

Developed by StudentB