Y gelfyddyd a'r grefft o dyfu planhigion yw garddio. Bwriad garddio yw creu amgylchedd hardd neu tyfu planhigion i'w bwyta. Fel arfer digwydd gwaith garddio o gwmpas y cartref, mewn lle o'r enw gardd. Yn yr hen ddyddiau roedd gerddi yn rhan bwysig i gartrefi llwm, a byddai'r bythynod yn dibynnu yn drwm ar y cynnyrch a dyfai yn yr ardd gan fod eu cyflog mor isel.