Gwrtheyrn

Gwrtheyrn
Ganwyd394 Edit this on Wikidata
Bu farw454 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines, teyrn Edit this on Wikidata
TadGwidol ap Gwidolin ap Gloyw Wallt Hir Edit this on Wikidata
PriodRhonwen, Sevira ferch Macsen Edit this on Wikidata
PlantCadeyrn Fendigaid, Gwerthefyr, Pasgen ap Gwrtheyrn, Faustus o Riez, Cyndeyrn ap Gwrtheyrn Gwrtheor ap Gwidol ap Gwidolin Edit this on Wikidata
Llinachllinach Gwrtheyrn Edit this on Wikidata
Dyluniad o Wrtheyrn allan o Frut y Brenhinedd (Llsgr. Peniarth 23C); Ll. G. C.

Brenin Brythonig yng nghanol y 5g oedd Gwrtheyrn (Lladin: Vortigernus) yn ôl traddodiad. Dywedir mai ef fu'n gyfrifol am wahodd y Sacsoniaid i Ynys Prydain. Nid oes sicrwydd a yw'n gymeriad hanesyddol ai peidio. Cyfeirir ato hefyd fel 'Gwrtheyrn Gwrtheneu.

Ceir sôn yng ngwaith Gildas, De Excidio Britanniae (6g) i gynghorwyr y Brythoniaid, "ynghyda'u teyrn balch" (cum superbo tyranno) wahodd y Sacsoniaid i'r ynys, ond nid yw Gildas yn rhoi enw'r teyrn hwnnw. Mae Beda yn ei Hanes Eglwysig yn yr 8g yn rhoi enw'r brenin yn y stori fel Uurtigern.

Gwrtheyrn

Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir fersiwn lawnach o'r stori. Dywed fod y brenin Guorthigirnus wedi croesawu arweinwyr y Saesnon, Hengist a Hors, ac wedi rhoi ynys Tanet yn rhodd iddynt. Dywedir mai er mwyn cael merch Hengist, Alys Rhonwen (neu Ronwen), yn wraig y rhoes diroedd iddynt. Yn ôl Nennius gwahoddodd Hengist Wrtheyrn a'i bendefigion i wledd yn ei lys. Ond ystryw oedd y cyfan i lofruddio'r Brythoniaid er mwyn meddiannu Ynys Prydain. Cytunodd Gwrtheyrn, dall yn ei gariad at Ronwen, ond ar yr amod fod pawb yn ddiarfog yn y wledd. Ar air penodedig gan Hengist (Nemet eour Saxes! "Gafaelwch yn eich cyllyll!"), tynnodd y Saeson, oedd yn eistedd bob yn ail â'r Brythoniaid wrth y byrddau, eu cyllyll hirion a lladd tri chant o'r Brythoniaid. Dim ond un pendefig a lwyddodd i ddianc o'r gyflafan, sef Eidol, Iarll Caerloyw. Ni fu dewis gan Wrtheyrn wedyn ond ildio de Prydain i gyd i'r Sacsoniaid a ffoi a gweddill ei bobl i Gymru.

Dywedir iddo ffoi i Eryri. Yno ceisiodd godi caer ar safle Dinas Emrys, ond roedd y gwaith adeiladu yn cael ei chwalu bob nos. Dywedodd ei wŷr doeth wrtho fod rhaid arllwys gwaed bachgen heb dad dros y seiliau. Ceir hyd i fachgen felly yng Nghaerfyrddin, a phan ddygir ef at y brenin, dywed mai Ambrosius yw ei enw. Mae'r bachgen, Emrys Wledig, yn dangos i'r brenin fod llyn oddi tan y gaer lle mae dwy ddraig yn byw, draig goch a draig wen, ac mai hwy sy'n achosi i'r seiliau gwympo. Newidiwyd yr hanes gryn dipyn gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae, lle rhoir yn enw Myrddin i'r bachgen yn y chwedl am y ddwy ddraig.

Roedd gan Gwrtheyrn fab o'r enw Gwerthefyr, a ymladdodd nifer o frwydrau llwyddiannus yn erbyn y Sacsoniaid, ond a fu farw'n gymamserol.

Mewn fersiwn arall o stori Gwrtheyrn, priododd ei ferch ei hun, a chafodd ei felltithio gan Sant Garmon. Llosgwyd ef a'i wragedd gan dân o'r nefoedd yng Nghaer Gwrtheyrn yn Nyfed.

Yn ôl yr arysgrif ar Groes Eliseg, roedd brenhinoedd Teyrnas Powys yn ddisgynyddion Gwrtheyrn. Ymddengys fod cwmwd Gwerthrynion (Gwrtheyrnion mewn rhai ffynonellau) wedi ei enwi ar ei ôl, ac felly hefyd Nant Gwrtheyrn ync Ngwynedd.


Developed by StudentB