Hashnod

Hashnod
Enghraifft o'r canlynolnodwedd mewn meddalwedd Edit this on Wikidata
Mathtag, identifying artifact, user-generated content Edit this on Wikidata
Rhan ofolksonomy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Hashnod yn ffenomenon o'r cyfryngau cymdeithasol sydd wedi treiddio fewn i bywyd bob dydd. Defnyddir Hashtags ar wefannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol, fel Twitter,[1] Facebook,[2] Google+ a YouTube.[3] Gall hashnod fod yn rhan o ddedfryd neu ychwanegiad ar wahân iddo. Mantais defnyddio hashnod o flaen gair, lleoliad neu ddigwyddiad yw ei fod yn gwneud yn haws i bobl ddilyn cynnwys arbennig - boed yn gyfres deledu, trafodaeth wleidyddol, protest neu diddordeb arbenigol. Defnyddir yr arwydd # a ddefnyddir hefyd mewn cyd-destunau eraill i ddynodi y gair "rhif" (megis #1 = rhif 1) neu'r arwydd am £ lle na cheir un.

Wrth ddefnyddio'r hashnod mewn defnydd cyfryngau cymdeithasol megis Twitter defnyddir yr hashnod fel rhagddodiad, heb ofod wedi'i ddilyn gan air, neu nifer o eiriau heb unrhyw fylchau rhyngddynt (gyda thanlinellu yn hytrach na hynny) i ddod o hyd i neges yn hawdd. Y gair Saesneg yw Hashtag. Nid oes modd defnyddio marciau atalnodi fel symbolau yr ebychnod fel rhan o'r gair yn yr hashnod ond gellir defnyddio'r symbol &. Mae modd hefyd defnyddio nodau diacritig o fewn hashnod ond gall hyn amrywio yn ôl cysoesedd y ffôn. Nid yw Twitter yn gwahaniaethu rhwng llythrennau bras neu bach - bydd #draiggoch yn cael ei dderbyn fel #DraigGoch, er bod yr ail hashnod yn haws ar y lygad ac, felly, yn fwy derbyniol a chyffredin ymysg defnyddwyr.

Enghraifft:

Mae'r tagiau #Eisteddfod a #Cymru neu #Caerdydd yn sicrhau y gellir dod o hyd i'r neges yn hawdd. Os yw defnyddiwr yn chwilio am hashnod, fel arfer mae'n cael rhestr o negeseuon sy'n defnyddio'r un hashnod.[4]

  1. How to use hashtags, Twitter
  2. How do I use hashtags?, Facebook
  3. Hashtags gebruiken om video's te zoeken, Google
  4. Hashtags?, wordpress.com

Developed by StudentB