Mae Hen Oes y Cerrig Uchaf neu ar lafar Paleo Uchaf (Saesneg: (Upper Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: y rhaniad olaf o dri, ac yn rhychwantu'r cyfnod rhwng 50,000-10,000 cyn y presennol (CP). Mae'n dilyn Hen Oes y Cerrig Canol ac yn rhagflaenu Oes ddiweddar yr Efydd pan ddechreuodd dyn drin y tir ac amaethu a chodwyd teml Göbekli Tepe yn Nhwrci.
Tua 50,000 CP, gwelwyd newid sylweddol yn yr amrywiaeth o offer llaw ac arteffactau eraill. Am y tro cyntaf yn Affrica, lle hannodd dyn, gwelwyd arteffactau a'r celf cyntaf yn ymddangos e.e. taflegrau bychan, miniog, offer ysgythru, llafnau miniog ac offer drilio a thyllu. Un o'r mannau pwysicaf yw Ogof Blombos yn Ne Affrica. Roedd pwrpas gwahanol ac unigryw i bob twlsyn a gwelwyd pwysigrwydd callestr. Rhwng 45,000 a 43,000 ymledodd y dechnoleg offer yma drwy Ewrop a gwelwyd cynnydd dybryd yn nifer y bobloedd; mae'n gwbwl bosib mai dyma a achosodd i nifer y Neanderthaliaid yn y cyfnod hwn ostwng yn sylweddol. Enw arall ar bobl yr Oes hon oedd y Cro-Magnon ac mae'r dystiolaeth ohonynt i'w gael mewn marciau ac mewn offer soffistigedig megis asgwrn, ifori, corn, paentiadau mewn ogofâu a cherfluniau bychan o bobl.[1][2][3] Hela carw oedd y gwaith pwysicaf, a helwyr a physgotwyr oedd mwyafrif y bobl.
Yn y cyfnod hwn, darganfuwyd 27 claddfa drwy Ewrop, lle lliwiwyd esgyrn dynol, ac un o'r rhai pwysicaf ydy Ogof Paviland ym Mhenrhyn Gŵyr lle defnyddiwyd ocr coch.