Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon, sport with racquet/stick/club |
---|---|
Math | chwaraeon tîm, chwaraeon peli, gaelic games |
Hyd | 70 munud |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Chwaraeon tîm o darddiad Celtaidd yw hyrli[1] (Gwyddeleg: iomáint neu úrhúlíocht; Saesneg: hurling). Mae gan y gêm wreiddiau cynhanesyddol, credir iddi gael ei chwarae ers o leiaf 3,000 o flynyddoedd,[2] ac fe'i hystyrir fel y gamp maes gyflymaf yn y byd.[2][3]
Chwaraeir y gêm yn Iwerddon yn bennaf ac mae'n debyg i camanachd (shinty) sy'n cael ei chwarae yn yr Alban. Mae fersiwn benywaidd o'r gêm Wyddelig o'r enw camógaíocht (Camogie).
Mae'n cael ei lywodraethu gan y Gymdeithas Athletau Gwyddelig. Pencampwriaeth Iwerddon gyfan yw prif gystadleuaeth y gamp hon, sy'n cael ei hymladd gan dimau o wahanol siroedd Gweriniaeth Iwerddon a siroedd Gogledd Iwerddon, yn ogystal â thîm cynrychioliadol o Lundain (Y Deyrnas Unedig) ac un arall o Efrog Newydd (Unol Daleithiau). Mae rownd derfynol y bencampwriaeth yn cael ei hymladd yn stadiwm Parc Croke yn Nulyn.
Mae hyrli'n cael ei chwarae ledled y byd, ac mae'n boblogaidd ymhlith aelodau alltud Iwerddon mewn gwahanol leoliadau yng Ngogledd America, Ewrop, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica a'r Ariannin, er heb unrhyw gynghrair broffesiynol.