Mae Instagram (a dalfyrrir yn gyffredin i IG neu Insta ) yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol Americanaidd sydd yn galluogi ei ddefnyddwyr i rannu lluniau a fideos. Mae'r gwasanaeth hwn yn eiddo i Facebook ac fe'i grewyd gan Kevin Systrom a Mike Krieger. Lansiwyd yn wreiddiol ar iOS ym mis Hydref 2010. Cyhoeddwyd y fersiwn Android ym mis Ebrill 2012, ac yna i ddilyn yn Nhachwedd 2012 cyhoeddwyd rhyngwyneb gwe â nodweddion cyfyngedig. Ym mis Mehefin 2014, daeth yr ap Fire OS, ac yna ap ar gyfer Windows 10 ym mis Hydref 2016. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho cyfryngau y gellir eu golygu â hidlwyr a'u trefnu gan ddefnyddio hashnodau a thagio daearyddol. Gellir rhannu postiau yn gyhoeddus neu â dilynwyr sydd wedi eu cymeradwyo eisoes. Gall defnyddwyr bori cynnwys defnyddwyr eraill drwy ddefnyddio tagiau a lleoliadau a gweld cynnwys poblogaidd. Gall defnyddwyr hoffi lluniau a dilyn defnyddwyr eraill i ychwanegu cynnwys i'w ffrwd. Ymddengys fod y nodwedd hwn wedi dod i ben fis Medi 2020. Yn wreiddiol, roedd Instagram yn adnabyddus am y nodwedd o fframio lluniau mewn cymhareb agwedd sgwar (1:1) yn unig gyda 640 picsel i gyd-fynd â lled sgrin iPhone ar y pryd. Yn 2015, cafodd y cyfyngiadau eu llacio, gan gynyddu swm y picseli i 1080. Ychwanegodd y gwasanaeth nodwedd anfon negeseuon yn ogystal â'r gallu i gynnwys nifer o lluniau o fideos mewn un post. Ychwanegwyd nodwedd Storiau - yn debyg iawn i'w brif wrthwynebydd sef Snapchat - sydd yn caniatáu i ddefnyddwyr bostio lluniau a fideos i'w ffrwd. Mae bob un post ar gael i eraill am 24 awr. Ym mis Ionawr 2019, cyfrifwyd bod y nodwedd Storiau yn cael ei ddefnyddio gan 500 miliwn o ddefnyddwyr yn ddyddiol.
Developed by StudentB