Corff parafilwrol Seionaidd a oedd yn gweithredu ym Mhalesteina dan Fandad rhwng 1931 a 1948 oedd yr Irgwn (Hebraeg: ארגון; teitl llawn: Hebraeg: הארגון הצבאי הלאומי בארץ ישראל HaIrgun HaTzvaʾi Ha-Leumi b-Eretz Israel, yn llyth. "Y Corff Milwrol Cenedlaethol yng Ngwlad Israel"), neu Etsel (Hebraeg: אצייל) (a dalfyrrir weithiau fel IZL). Roedd yn gangen o'r corff parafilwrol Iddewig hŷn a mwy, sef yr Haganah (Hebraeg: הגנה, Amddiffyniad).[1] Mae'r Irgwn wedi cael ei ystyried yn gorff terfysgol neu'n gorff a gyflawnodd weithredoedd terfysgol. [2] [3] [4] [5]
Roedd polisi'r Irgwn yn seiliedig ar yr hyn a elwid bryd hynny yn Seioniaeth Ddiwygiadol a sefydlwyd gan Ze'ev Jabotinsky.[6] Dau o'r ymgyrchoedd y mae'r Irgwn yn fwyaf adnabyddus amdanynt yw bomio Gwesty'r Brenin David yn Jerwsalem ar 22 Gorffennaf 1946 a chyflafan Deir Yassin a laddodd o leiaf 107 o bentrefwyr Arabaidd Palesteinaidd, gan gynnwys menywod a phlant, a gynhaliwyd ar y cyd â Lehi on 9 Ebrill 1948 fel rhan o'r ymgyrch i garthu Palesteina o'i phoblogaeth Arabaidd.
Cyflawnodd y corff weithredoedd terfysgol yn erbyn Arabiaid Palesteina, yn ogystal ag yn erbyn yr awdurdodau Prydeinig, a oedd yn cael eu hystyried gan yr Irgwn yn feddianwyr anghyfreithlon.[7] Disgrifiwyd yr Irgwn yn gorff terfysgol yn benodol gan y Cenhedloedd Unedig a llywodraethau Prydain a'r Unol Daleithiau; mewn cyfryngau fel papur newydd The New York Times ;[8] [9] yn ogystal â chan y Pwyllgor Ymchwilio Eingl-Americanaidd, [10] [11], Cyngres Seionaidd 1946 [12] a'r Asiantaeth Iddewig.[13] Mewn llythyr at The New York Times ym 1948, cymharodd Albert Einstein yr Irgwn a’i olynydd gwleidyddol, Herut, â “phleidiau Natsïaidd a Ffasgaidd” a’i ddisgrifio fel “corff terfysgol, asgell dde, siofinistaidd”.[14] Honnodd un o golofnwyr Ha'aretz a hanesydd Israel Tom Segev fod yr Irgwn wedi cysylltu â chynrychiolwyr yr Eidal Ffasgaidd, gan gynnig cydweithredu â hwy yn erbyn y Prydeinwyr.[15] Bu Clare Hollingworth, gohebydd y Daily Telegraph a The Scotsman, yn Jerwsalem yn ystod 1948 ac ysgrifennodd sawl adroddiad di-flewyn-ar-dafod ar ôl treulio sawl wythnos yng Ngorllewin Jerwsalem gan gynnwys yr isod ar 2 Mehefin 1948:[16]
“ | Irgun is in fact rapidly becoming the 'SS' of the new state. There is also a strong 'Gestapo' – but no-one knows who is in it.
'The shopkeepers are afraid not so much of shells as of raids by Irgun Zvai Leumi and the Stern Gang. These young toughs, who are beyond whatever law there is have cleaned out most private houses of the richer classes & started to prey upon the shopkeepers.' |
” |
Ar ôl sefydlu Gwladwriaeth Israel yn ystod rhyfel Palestina 1948, dechreuodd yr Irgwn gael ei amsugno i Luoedd Amddiffyn Israel a oedd newydd eu creu. Cynyddodd y gwrthdaro rhwng yr Irgwn a'r IDF gan arwain at achos Altalena 1948, a daeth yr Irgwn i ben yn ffurfiol ar Ionawr 12, 1949. [18]
Bu'r Irgwn yn rhagflaenydd gwleidyddol i'r blaid adain dde Herut (neu "Rhyddid") Israel, a arweiniodd at blaid Likud heddiw. [19] Mae Likud wedi arwain neu wedi bod yn rhan o'r mwyafrif o lywodraethau Israel ers 1977.
Fe ddaeth arweinydd olaf yr Irgwn, Menachem Begin (1943-1948) yn brif Weinidog ar Israel (1977-1983).
|isbn=
value: invalid character (help). no-break space character in |isbn=
at position 1 (help)CS1 maint: extra punctuation (link)
One of the main developments in the initial period of the State was the growth of the Herut party.... It developed from the older Revisionist groups, the 'terrorist' groups of the Irgun Zvai Leumi and members of the Revisionist party ... in 1965 Herut founded, together with the great part of the Liberals, a parliamentary bloc ... in 1973, with the addition of other small groups, it became transformed into Likud