Math | Talaith Rufeinig |
---|---|
Enwyd ar ôl | Jwdea |
Prifddinas | Caesarea Maritima |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Coponius |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Lladin |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Roman Palestine |
Lleoliad | Tiroedd Israel |
Sir | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Gwlad | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Gerllaw | Môr y Lefant |
Yn ffinio gyda | Ægyptus |
Cyfesurynnau | 32.5°N 34.9°E |
Cyfnod daearegol | y cynfyd clasurol |
Pennaeth y Llywodraeth | Coponius |
Talaith Rufeinig yn ardal Judea, Palesteina o'r wlad sy' nawr yn Israel oedd Iudaea (Hebraeg: יהודה, Groeg: Ιουδαία; Lladin: Iudaea). Enwyd y dalaith ar ôl Teyrnas Jwda.
Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal yn 63 CC, pan fu'r cadfridog Pompeius Magnus yn ymgyrchu yno. Diorseddwyd y brenin Judah Aristobulus II, a gwnaed ei frawd Ioan Hyrcanus II yn frenin dan awdurdod Rhufain.
Am gyfnod bu Judea yn deyrnas dan benarglwyddiaeth Rhufain; o 40 CC hyd 4 CC roedd yn rhan o deyrnas Herod Fawr. Yn dilyn ei farwolaeth ef, rhannwyd ei deyrnas, gyda rheolwr pob rhan yn dwyn y teitl tertrarch ("rheolwr dros bedwaredd ran"). Tetrach Judea oedd mab Herod Fawr, Herod Archelaus, ond yn 6 OC diorseddwyd ef gan yr ymerawdwr Augustus yn dilyn apêl iddo gan ddeiliaid Herod.
Cyfunwyd Judea gyda Samaria ac Idumea i greu talaith Rufeinig Iudaea. Bu nifer o wrthryfeloedd yn erbyn y Rhufeiniaid, yn cynnwys y Gwrthryfel Iddewig Mawr (66-70), Rhyfel Kitos (115-117) a gwrthryfel Simon bar Kochba (132-135). Wedi gwrthryfel Bar Kochba, newidiodd yr ymerawdwr Hadrian enw'r dalaith i Syria Palaestina ac enw Jeriwsalem i Aelia Capitolina.
Roedd y dalaith yn un o'r ychydig daleithiau Rhufeinig oedd yn cael ei llywodraethu gan Rufeiniwr o radd ecwestraidd, un radd gymdeithasol yn is na'r llywodraethwyr o radd seneddol yn y taleithiau eraill. Un o'r llywodraethwyr oedd Pontius Pilat, o 26 hyd 36.
Rhwng 41 a 44, roedd Iudaea yn deyrnas dan Herod Agrippa. Wedi ei farwolaeth ef, bu dan reolaeth uniongyrchol Rhufain am gyfnod, cyn ei rhoi i fab Herod Agrippa, Marcus Julius Agrippa, yn 48. Pan fu ef farw tua 100, daeth yn dalaith unwaith eto.
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |