Ixquick

Peiriant metachwilio yw Ixquick, sy'n gweithio trwy harnesu sawl peiriant chwilio arall ar y rhyngrwyd. Lleolir Ixquick yn Ninas Efrog Newydd, UDA a'r Iseldiroedd ac mae wedi cyflenwi 120 miliwn o chwiliadau gwe ers 2004. Sefydlwyd Ixquick gan David Bodnick yn 1998, yn Efrog Newydd. Ers 2000 mae'n perthyn i gwmni Iseldiraidd, sef Surfboard Holding BV. Mae Ixquick yn dangos yn nodi'r deg canlyniad uchaf a geir trwy sawl peiriant chwilio trwy roi seren i ddynodi faint o beiriannau chwilio sy'n rhoi canlyniadau a'u trefnu yn ôl nifer y sêr. Gellir chwilio gyda Ixquick mewn 17 o ieithoedd, gyda fersiwn o'r peiriant ei hun ar gyfer pob un ohonynt (does dim gwasanaeth Cymraeg eto).


Developed by StudentB