Peiriant sydd yn derbyn arian i chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio yw jiwcbocs[1] neu sgrechflwch.[2] Datblygodd y ddyfais hon o'r pianos peiriannol a oedd yn boblogaidd yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g. Ymddangosodd y jiwcbocsys cyntaf yn Unol Daleithiau America yn y 1930au, a daethant yn boblogaidd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd fel modd i gwsmeriaid ddewis recordiau i'w chwarae mewn busnesau yfed a bwyta. Dodasai'r cwsmer ei ddarn arian yn y twll arian cyn pwyso botymau i ddewis y gân. Roedd golwg a dyluniad y ddyfais ei hun yn rhan bwysig o'i hapêl: byddai'r cwsmeriaid yn edmygu nodweddion megis pibelli crynion, colofnau tro i arddangos enwau'r caneuon, goleuadau lliwgar, a chipolwg ar fecanwaith y peiriant wrth iddo newid y recordiau. Buont yn gyffredin iawn mewn barrau a thafarnau, caffis, tai bwyta a siopau soda ar draws yr Unol Daleithiau, a nifer o wledydd eraill, hyd at ddiwedd y 1960au. Ymhlith y prif gwmnïau a gynhyrchai jiwcbocsys oedd Wurlitzer a Rock-Ola. Dechreuwyd cynhyrchu jiwcbocsys newydd yn niwedd yr 20g i chwarae crynoddisgiau yn hytrach na'r hen recordiau, ac fel symbol hiraethus o ddiwylliant poblogaidd y 1950au a'r 1960au.[3]