Math | ynys lanwol |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd y Sianel |
Sir | Saint Peter's |
Gwlad | Beilïaeth Ynys y Garn |
Arwynebedd | 36 acre |
Gerllaw | Môr Udd |
Cyfesurynnau | 49.4611°N 2.6675°W |
Hyd | 0.4 cilometr |
Mae Lihou yn ynys-llanw fechan wedi'i lleoli ychydig oddi ar arfordir gorllewinol Ynys y Garn, yn y Môr Udd, rhwng Prydain a Ffrainc. Mae Lihou yn ffurfio rhan o Blwyf St Peter Port yn Meilïaeth Ynys y Garn,[1] ac yn awr yn eiddo i Senedd Guernsey (a elwir yn swyddogol fel y States of Guernsey), er y cafwyd nifer o berchnogion yn y gorffennol.[2] Ers 2006, mae'r ynys wedi cael ei rheoli ar y cyd gan Adran yr Amgylchedd Guernsey ac Ymddiriedolaeth Elusennol Lihou. Yn y gorffennol roedd yr ynys yn cael ei defnyddio gan bobl leol ar gyfer casglu gwymon i'w ddefnyddio fel gwrtaith, ond heddiw mmae Lihou'n cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer twristiaeth, gan gynnwys teithiau ysgol. Mae Lihou hefyd yn ganolfan bwysig ar gyfer cadwraeth, gan ffurfio rhan o safle Ramsar ar gyfer cadwraeth adar a phlanhigion prin, yn ogystal ag adfeilion hanesyddol priordy a ffermdy.