Lleian yw dynes sy'n byw bywyd crefyddol neilltuedig, un ai ar ei phen ei hun neu mewn cymuned, ac yn dilyn rheolau arbennig. Gelwir dyn sy'n byw yr un math o fywyd yn fynach. Ceir lleianod mewn nifer o grefyddau, ond yn arbennig mewn Cristnogaeth a Bwdhaeth.
Tueddir i ddefnyddio "lleian" am berson sy'n byw mewn cymuned a elwir yn lleiandy; ond mewn gwirionedd mae meudwyes, sy'n byw ar ei phen ei hun, hefyd yn fath ar leian.