Enw person mewn llawysgrifen y person hwnnw yw llofnod. Mae llofnod yn fodd o ddilysu'r hyn a lofnodir (megis llythyr, dogfen neu siec) ac yn arwyddnod o'r person (megis llofnod ar lythyr personol neu lofnodion gan enwogion mewn llyfr llofnodion). Gan amlaf mae'r llofnod yn fwy arddulliedig na llawysgrifen arferol yr awdur.
Cyfuniad o "llawf" (sef llaw) a "nod" yw'r gair "llofnod". Mae'n bosib cafodd y gair ei fathu gan Iolo Morganwg.[1]