Cariad tuag at lyfrau yw llyfrgarwch neu lyfr-addoliaeth, a gelwir person sy'n caru llyfrau yn llyfrgarwr a'r person sy'n mwynhau darllen, yn llyfrbryf.[1] Mae llawer o lyfrgarwyr yn casglu llyfrau ac yn defnyddio llyfrgelloedd cyhoeddus.
Mae llyfrgarwch yn wahanol i bibliomania, sef anhwylder gorfodaeth obsesiynol pan fo gan gasglu llyfrau effaith ddirywiol ar gysylltiadau cymdeithasol neu iechyd y bibliomaniac.[2]
Mae llyfrgarwyr enwog yn cynnwys Cicero, William Gladstone, John Maynard Keynes, a Thomas Jefferson a honodd, "Ni fedraf fyw heb lyfrau".[3]
"Chwilen ryfedd yw'r ysfa o hel llyfrau. Yn wir, tebyg yw'r llyfrbryf i ryw Alecsander Fawr yn sibrwd wrthoi'i hunan beunydd: "O! na fyddai byd arall i'w goncro!" Nid oes fyth ddigoni arno. Mae'n synhwyro llyfrau o hirbell, megis y mae'r meddwyn yn arogli cwrw."
Cymdeithas ar gyfer casglwyr a charwyr llyfrau Cymraeg a Chymreig yw Cymdeithas Bob Owen. Fe'i sefydlwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976. Cafodd y gymdeithas ei henwi ar ôl yr hynafiaethydd a'r llyfrbryf enwog Bob Owen, Croesor.