Enghraifft o'r canlynol | mudiad gwleidyddol, Syndicaliaeth, y mudiad llafur |
---|---|
Daeth i ben | 1817 |
Rhan o | y mudiad llafur |
Dechrau/Sefydlu | 11 Mawrth 1811 |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydliad cyfrinachol[1] o weithwyr tecstilau Lloegr yn y 19eg ganrif oedd y Ludiaid. Roedd yn garfan eithafol a ddinistriodd beiriannau tecstilau fel math o brotest. Roedd y grŵp yn protestio yn erbyn defnyddio peiriannau mewn “dull twyllodrus” i hepgor arferion llafur safonol.[2] Roedd Ludiaid yn ofni y byddai'r amser a dreulid yn dysgu sgiliau eu crefft yn mynd yn wastraff, gan y byddai peiriannau'n disodli eu rôl yn y diwydiant.[3] Dros amser, mae'r term wedi dod i olygu un sy'n gwrthwynebu diwydiannu, awtomeiddio, cyfrifiaduro, neu dechnolegau newydd yn gyffredinol.[4]
Achosodd cyflwyniad mecaneiddio a pheiriannau newydd y Chwyldro Diwydiannol wrthwynebiad gan weithwyr tecstiliau a oedd yn gweithio yn y melinau tecstiliau, er enghraifft, y gwehyddion a’r hosanwyr. Bu protestio a therfysgu yn erbyn y newidiadau yr oedd y fath dechnegolau wedi eu hachosi yn eu harferion gwaith gyda llawer yn colli eu swyddi. Cynhyrchwyd y brethyn yn gyflymach gan y peiriannau newydd ac yn rhatach na’r hyn oedd y gwehyddion yn medru ei wneud yn eu cartrefi eu hunain. Bu’r Ludiaid yn protestio rhwng 1811 – 1817 gyda’r ymosodiad cyntaf ym mis Mawrth 1811 yn Nottingham. Anfonwyd llythyrau bygythiol yn enw ‘General Ludd’ neu ‘King Ludd’ i berchnogion ffatrïoedd. Erbyn dechrau 1812 roedd yr ymosodiadau wedi lledaenu i West Riding yn Swydd Gaerefrog lle cymerodd tocwyr hynod grefftus ran mewn cyrchoedd yn ystod y nos i ddinistrio fframiau a gweithdai. Tocwyr oedd y gweithwyr a oedd yn gorffen darnau o frethyn ac roedd eu bywoliaeth wedi cael ei dinistrio bron yn gyfan gwbl gan ddyfais y ffrâm lafnu.[5][6] Aeth perchnogion melinau a ffatri at saethu protestwyr ac yn y pen draw cafodd y mudiad ei atal gan rym cyfreithiol a milwrol.