Maes-gasglu

Mae maes-gasglu (Saesneg: Groundhopping) yn hobi sy'n golygu mynychu gemau mewn cymaint o wahanol stadia neu feysydd chwarae â phosib. Cysylltir y weithgaredd gyda phêl-droed gan fwyaf, er gellid ei fwynhau drwy ymweld â meysydd campau eraill megis rygbi neu griced. Gelwir y rhai sy'n cymryd rhan yn ground hoppers, neu'n hoppers. Yn gyffredinol, mae 'groundhoppers' yn ddilynwyr pêl-droed sydd fel arfer â barn niwtral am glybiau pêl-droed (neu gamp arall) ac yn ceisio mynychu cymaint o gemau mewn cymaint o stadia neu feysydd â phosibl, gan weld y broses gyfan fel gweithgaredd hamdden.


Developed by StudentB