Martin Luther King

Martin Luther King
LlaisMartin Luther King, Jr. speaks about Barry Goldwater at a press conference at Amsterdam Airport Schiphol, August 1964 (audio from Polygoon).oga Edit this on Wikidata
GanwydMichael King Jr. Edit this on Wikidata
15 Ionawr 1929 Edit this on Wikidata
Atlanta Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 1968 Edit this on Wikidata
Memphis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Morehouse
  • Crozer Theological Seminary
  • Prifysgol Boston
  • Ysgol Uwchradd Washington
  • Ysgol Diwinyddiaeth Prifysgol Boston
  • Ysgol Uwchradd David T. Howard
  • Ysgol Ddiwynyddol Candler Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Lotan Harold DeWolf Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog bugeiliol, pregethwr, ymgyrchydd hawliau sifil, amddiffynnwr hawliau dynol, ymgyrchydd heddwch, heddychwr, llenor, gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Dexter Avenue Baptist Church
  • Ebenezer Baptist Church
  • Prifysgol Vrije Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadReinhold Niebuhr, Howard Thurman, Walter Rauschenbusch, Henry David Thoreau, Mahatma Gandhi Edit this on Wikidata
Dydd gŵylMartin Luther King Jr. Day Edit this on Wikidata
Taldra168.9 centimetr Edit this on Wikidata
Mudiadmudiadau hawliau sifil, di-drais, undeb llafur yn UDA, mudiad Hawliau Sifil America Edit this on Wikidata
TadMartin Luther King Sr. Edit this on Wikidata
MamAlberta Williams King Edit this on Wikidata
PriodCoretta Scott King Edit this on Wikidata
PlantYolanda King, Martin Luther King III, Dexter Scott King, Bernice King Edit this on Wikidata
PerthnasauAlveda King Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Dyneiddiwr y Flwyddyn, Gwobr Pacem in Terris, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Gwobrau Margaret Sanger, Time Person of the Year, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aur y Gyngres, Dyngarwr y Flwyddyn, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Medal Spingarn, doethuriaeth anrhydeddus Prifysgol Hofstra Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://thekingcenter.org Edit this on Wikidata
llofnod
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Roedd Martin Luther King yr ieuengaf (15 Ionawr 19294 Ebrill 1968) yn weinidog ac actifydd Cristnogol o'r Unol Daleithiau a ddaeth yn llefarydd ac arweinydd mwyaf gweladwy'r Mudiad Hawliau Sifil o 1955 hyd at ei lofruddiaeth ym 1968. Mae King yn fwyaf adnabyddus am hyrwyddo hawliau sifil drwy ddulliau di-drais ac anufudd-dod sifil oedd wedi eu hysbrydoli gan ei gredoau Cristnogol a phrotestiadau di-drais Mahatma Gandhi.

Arweiniodd King foicot bysiau Montgomery yn 1955 ac yn ddiweddarach daeth yn llywydd cyntaf Cynhadledd Arweinyddiaeth Gristnogol y De (Southern Christian Leadership Conference). Fel llywydd y Gynhadledd, arweiniodd frwydr aflwyddiannus yn 1962 yn erbyn arwahanu yn Albany, Georgia, a helpodd i drefnu protestiadau di-drais 1963 yn Birmingham, Alabama. Bu hefyd yn cynorthwyo â threfniadau’r Orymdaith i Washington, ym mis Mawrth 1963, lle traddododd ei araith enwog Mae gen i freuddwyd (I have a dream) ar risiau Cofeb Lincoln.

Ar 14 Hydref 1964, enillodd King Wobr Heddwch Nobel am frwydro yn erbyn anghydraddoldeb hiliol drwy wrthwynebiad di-drais. Ym 1965, helpodd i drefnu'r gorymdeithiau o Selma i Montgomery. Yn ei flynyddoedd olaf, ehangodd ei ffocws i gynnwys gwrthwynebiad i dlodi, cyfalafiaeth, a Rhyfel Fietnam. Gwelwyd ef gan Gyfarwyddwr yr FBI, J. Edgar Hoover, yn unigolyn radical, a bu King yn destun trafod rhaglen gwrthgynhadledd yr FBI o 1963 ymlaen. Roedd King yn destun ymchwiliadau cyson i ysbïwyr yr FBI oherwydd ei gysylltiadau comiwnyddol honedig, a chofnodwyd ei berthnasau tu allan i'w briodas ac adroddwyd arnynt i swyddogion y llywodraeth. Ym 1964, derbyniodd King lythyr anhysbys bygythiol, a ddehonglwyd ganddo fel ymgais i wneud iddo gyflawni hunanladdiad.[1]

Pan gafodd ei lofruddio ar 4 Ebrill 1968, ym Memphis, Tennessee, roedd King yn trefnu ac yn cynllunio ‘meddiant cenedlaethol’ o Washington, D.C., a fyddai’n cael ei alw’n Ymgyrch y Bobl Dlawd. Yn dilyn ei farwolaeth, bu terfysgoedd yn llawer o ddinasoedd yr Unol Daleithiau. Parhaodd honiadau am ddegawdau ar ôl y saethu bod James Earl Ray, y dyn a gafwyd yn euog o ladd King, wedi cael ei fframio neu ei fod wedi gweithredu ar y cyd ag asiantaethau’r llywodraeth.

Wedi ei farwolaeth dyfarnwyd y Fedal Rhyddid Arlywyddol a’r Fedal Aur Gyngresol i King. Sefydlwyd Diwrnod Martin Luther King Jr. fel dydd gŵyl mewn dinasoedd a gwladwriaethau ledled yr Unol Daleithiau, gan ddechrau ym 1971; deddfwyd y gwyliau ar lefel ffederal gan ddeddfwriaeth a lofnodwyd gan yr Arlywydd Ronald Reagan ym 1986. Mae cannoedd o strydoedd yn yr Unol Daleithiau wedi cael eu hailenwi er anrhydedd iddo, ynghyd â sir yn Washington. Cysegrwyd Cofeb Martin Luther King Jr ar y Rhodfa Genedlaethol yn Washington D.C yn 2011.[2]

  1. Theoharis, Athan G. (1999). The FBI : a comprehensive reference guide. Internet Archive. Phoenix, Ariz. : Oryx Press. ISBN 978-0-585-09871-5.
  2. Tavernise, Sabrina (2011-08-22). "A Dream Fulfilled, Martin Luther King Memorial Opens". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-09-10.

Developed by StudentB