Cymeriad yn y chwedlau am y Brenin Arthur yw Medrawd, weithiau Medrod. Dywedir ei fod yn nai i Arthur, neu mewn ffynonellau eraill yn fab gordderch iddo, ac iddo wrthryfela yn ei erbyn, gan achosi Brwydr Camlan.
Ceir y cofnod cynharaf am y frwydr yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 537:
Ceir yr hanes yn llawn gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae. Geilw'r ymerawdwr Lucius Tiberius ar Brydain i dalu teyrnged i Rufain unwaith eto. Mae Arthur yn gorchfygu Lucius yng Ngâl, ond yn y cyfamser mae Medrawd yn cipio gorsedd Prydain a'r frenhines Gwenhwyfar. Dychwela Arthur a lladd Medrawd ym mrwydr Camlan, ond fe'i clwyfir yn angeuol ei hun ac mae'n cael ei gludo i Ynys Afallach ac yn trosgwlyddo'r deyrnas i'w nai Cystennin.
Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach.
Cyfeirir at Fedrawd fel un o'r 'Trywyr Gwarth' mewn triawd hir yn Nhrioedd Ynys Prydain sy'n rhoi hanes Camlan.