Meritocratiaeth

Ffurf ar lywodraeth, system economaidd neu gyfundrefn gymdeithasol sydd yn caniatáu i'r unigolyn ennill ei le o ganlyniad i'w ddoniau a medrau personol yw meritocratiaeth.[1] Gallai gyfeirio at wladwriaeth sydd yn rhoi grym gwleidyddol a'r gallu i wneud penderfyniadau yng ngofal y rhai teilyngaf neu bolisi gan gwmnïau a sefydliadau eraill o benodi neu gyflogi ymgeiswyr i swyddi ar sail eu medrau. Dyma'r drefn ddelfrydol o safbwynt egalitaraidd, a fe'i cyferbynnir â systemau sydd yn pennu statws yn ôl dosbarth cymdeithasol, rhywedd, hil neu grŵp ethnig, crefydd, neu gysylltiadau teuluol. Yn y gymdeithas bur feritocrataidd, byddai mudoledd cymdeithasol yn gyfle barhaol i bawb, a ni fyddai dosbarth economaidd-gymdeithasol y plentyn yn effeithio o gwbl ar ddosbarth yr oedolyn.

Mewn hierarchaethau hanesyddol, megis ffiwdaliaeth a'r gyfundrefn gast, nid oedd y mwyafrif helaeth o bobl yn disgwyl gwella'u safle ym mywyd, a chafodd haenau cymdeithas eu hystyried yn amod naturiol na ellir ei newid. Fodd bynnag, dychmygwyd cymdeithasau delfrydol gan athronwyr hynafol megis Platon a Conffiwsiws ym mhle byddai statws a chyfoeth yr unigolyn yn dibynnu ar ei alluoedd. Yn unol â dysgeidiaeth Conffiwsiws, daeth meritocratiaeth y gwasanaeth sifil yn rhan bwysig o lywodraeth Tsieina. Yn y cyfnod modern cynnar yn Ewrop, yn sgil goblygiadau diwydiannu a thwf democratiaeth, datblygodd y syniad a'r arfer o ddosrannu swyddi yn ôl doniau'r unigolyn, yr hyn a elwir carrière ouvert aux talents ("gyrfa yn agored i dalent") gan Napoléon. Yn y 19g bu sawl gwlad yn y Gorllewin yn cyflwyno arholiadau a rheolau penodi yn y gwasanaeth sifil mewn ymdrech i gael gwared â nawddogaeth wleidyddol a ffrindgarwch o weinyddiaeth gyhoeddus. Er enghraifft, yn Unol Daleithiau America bu ymgyrch danbaid yn erbyn y system ysbail, a oedd yn galluogi "peiriannau" y pleidiau gwleidyddol i drin swyddi llywodraethol yn wobrwyon ar gyfer eu cefnogwyr ac arianwyr. Pasiwyd Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Sifil o'r diwedd ym 1883, gan osod seiliau i wasanaeth sifil meritocrataidd yn yr Unol Daleithiau.

Bathwyd y term Saesneg meritocracy gan y cymdeithasegydd Michael Young (1915–2002) yn ei lyfr dychanol The Rise of the Meritocracy, 1870–2033: An Essay on Education and Equality (1958). Enw cymysgiaith ydyw sydd yn cyfuno'r gair Saesneg merit ("haeddiant" neu "deilyngdod"), y mewnddodiad -o-, a'r ôl-ddodiad Groeg -cracy ("rheolaeth" neu "lywodraeth"). Er defnyddir y gair mewn ystyr gefnogol gan amlaf, i ddisgrifio trefn economaidd-gymdeithasol ddelfrydol sydd yn hwyluso mudoledd at ddiben cydraddoldeb, nod Young wrth ysgrifennu'r llyfr oedd rhybuddio yn erbyn dyrchafu'r dosbarth meritocrataidd yn elît newydd sydd yn cymryd ei alluoedd yn ganiataol, yn amddiffyn ei freintiau yn dra-awdurdodol, ac wedi ei ynysu oddi ar drwch y gymdeithas.[2] Fel rheol, addysg ac hyfforddiant, yn ogystal ag etheg gwaith, dyfalbarhad a rhinweddau eraill yr unigolyn, ydy'r prif foddion o gyrraedd safle uwch yn y drefn feritocrataidd. Mae'r rhai sydd yn beirniadu meritocratiaeth yn dadlau bod manteision strwythurol, yn enwedig y breintiau a ddarperir gan arian, yn pennu pwy sydd yn derbyn yr addysg a'r cyfleoedd gorau, ac felly yn ffafrio'r cyfoethogion. Dadleuasant hefyd bod y feritocratiaeth yn gwobrwyo meddwl grŵp a chydymffurfio yn hytrach na mentro a dyfeisgarwch, ac o ganlyniad yn atgyfnerthu'r drefn sydd ohoni ac yn atal newidiadau a fyddai'n gwella cymdeithas.

  1.  meritocratiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2020.
  2. (Saesneg) Michael Young, "Down with meritocracy", The Guardian (29 Mehefin 2001). Adalwyd ar 14 Ebrill 2020.

Developed by StudentB