Mur Israelaidd y Lan Orllewinol

Map yn dangos lleoliad y Mur (Chwefror, 2005)

Mur sydd wrthi'n cael ei godi gan wladwriaeth Israel (o fewn tiriogaeth y Lan Orllewinol yn bennaf) yw Mur Israelaidd y Lan Orllewinol. Mur o slabiau concrid ydyw yn bennaf.

Man reoli ym Mur Diogelwch Israel, ger dref Abu Dis

Mae'r Mur yn ddadleuol iawn. Hona'r awdurdodau Israeliaidd fod angen y mur er mwyn rhwystro terfysgwyr rhag croesi o'r Lan Orllewinol i dir Israel i ymosod. Bu gostyngiad o 90% yn yr ymosodiadau yn erbyn Israel rhwng 2002 a 2005;[1]. Hona wrthwynebwyr y Mur ei fod yn ymdrech anghyfreithlon i wladychu tir Palesteinaidd, dan esgus diogelwch,[2] ei fod yn torri cyfraith ryngwladol,[3] y fyddai'n gallu rhagfarnu trafodaethau ar statws terfynol y tir,[4] a'i fod yn cwtogi rhyddid Palesteiniaid sy'n byw'n gyfagos, yn rhwystro rhag iddynt teithio o fewn y Lan Orllewinol neu i Israel, gan danseilio eu heconomi (a oedd eisoes yn wan).[5]

Bu Israel dan bwysau [[Arlywydd yr Unol Daleithiau], George W. Bush ac Obama i beidio ymestyn a chreu mur concrit fel bysedd fewn i'r Lan Orllewinol i gwmpasu treflannal fel Ariel, er, na chafwyd gwrthwynebiad cadarn yn erbyn y mur fel arall.[6]

  1. Wall Street Journal, "After Sharon", 6 Ionawr, 2006.
  2. Under the Guise of Security, B'Tselem
  3. "U.N. court rules West Bank barrier illegal" (CNN)
  4. Set in stone, The Guardian, 15 Mehefin, 2003
  5. "The West Bank Wall - Unmaking Palestine". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2007-03-17.
  6. https://www.972mag.com/the-wall-10-years-on-the-great-israeli-project/

Developed by StudentB