Siambr sydd wedi'i hynysu o ran tymheredd yw odyn, sy'n fath o "bopty" a gafwyd fel rheol yn yr awyr agored. Mae'r "odyn" yn cynhyrchu gwres uchel, digonol i galedu neu sychu deunydd a gall hefyd achosi newid cemegol e.e. i galedu clai wneud briciau neu grochenwaith.[1]
Oherwydd tir mynyddig, asidig Cymru, ceir llawer ohonynt er mwyn troi carreg galch yn galch a ellid ei wasgaru ar y tiroedd gan ffermwyr er mwyn gwella ansawdd y pridd, drwy ei niwtraleiddio.
Yn yr Gymraeg Oesoedd Tywyll, gair am odyn oedd 'Cylyn' a fenthycwyd o'r air Lladin: 'culīna' (Cegin, stôf-coginio, lle dân), O'r air Gymraeg yma ddôth yr air Saesneg 'Kiln'.[2][3]