Osmosis yw'r broses ymhle mae toddydd yn symud ar draws bilen lled athraidd o barth o grynodiad isel o doddyn i barth crynodiad uchel.[1] Crybwyllwyd y broses yn drwyadl yn gyntaf gan y botanegydd Ellmynig Wilhelm Pfeffer yn yr 1880au. Mireiniwyd y dealltwriaeth ohono gan Jacobus Henricus van 't Hoff ag eraill.