Perthyn.com

Gwefan rhwydweithio cymdeithasol oedd Perthyn.com, yn debyg i MySpace a Bebo. Lleoleiddwyd rhyngwyneb Perthyn.com i'r Gymraeg, ac o'r herwydd, Cymraeg oedd yr unig iaith a ddefnyddwyd ar y wefan. Crëwyd y wefan gan gyn-actor, Luke Williams, o Gaernarfon ym mis Medi 2007, er mwyn cyflenwi rhwydwaith Gymraeg gan fod gwefannau megis MySpace a Facebook heb ymateb at ddeisebau yn gofyn iddynt i wneud hyn. Erbyn 2010, roedd y wefan wedi cau lawr.


Developed by StudentB