Pontio

Pontio yw canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor. Mae'n adeilad chwe llawr ar ar hen safle Theatr Gwynedd. Cynlluniwyd yr adeilad gan y penseiri Grimshaw, ac mae ynddo theatr hyblyg, canolig ei faint, wedi ei enwi ar ôl y canwr byd-enwog, Bryn Terfel, Stiwdio Theatr sy’n dal hyd at 120 o bobl, Sinema ddigidol sy’n dal 200, canolfan arloesi ac ystod eang o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr gan gynnwys swyddfeydd Undeb y Myfyrwyr a nifer o ofodau dysgu ac addysgu. Mae hefyd yn cynnig bwyd a diod. Fe'i lleolir ar Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ. Mae Pontio yn cynnig adloniant yn y Gymraeg a'r Saesneg gan gynnwys ffilmiau, cerddoriaeth a drama, gigs, sioeau plant, a sioeau cabaret. Agorwyd y ganolfan yn swyddogol, wedi oedi, ym mis Tachwedd 2015.


Developed by StudentB