Mae rhadwedd (Saesneg: freeware) yn feddalwedd, sy'n cael ei dosbarthu heb unrhyw gost ariannol i'r defnyddiwr terfynol e.e. Skype ac Adobe Acrobat Reader.
Nid oes set o hawliau cyffredinol, trwydded na EULA (end-user license agreement) a gytunwyd arnynt sy'n diffinio rhadwedd, felly mae pob cyhoeddwr yn diffinio ei reolau ei hun ar gyfer y rhadwedd y mae'n ei gynnig. Mae rhai cyhoeddwyr yn caniatáu addasu ac ailddosbarthu'r feddalwedd gan drydydd parti, heb ganiatâd yr awdur, ond mae eraill yn gwahardd hyn.[1][2]
Yn wahanol i feddalwedd ffynhonnell-agored, rhydd, sydd hefyd yn gallu cael ei dosbarthu am ddim, fel arfer ni fydd y cod ffynhonnell ar gyfer rhadwedd ar gael.[1] Mae'n bosibl y bydd rhadwedd yn fanteisiol i'r cwmni neu'r person a'i creodd drwy annog gwerthiant fersiwn gwell, fel yn y modelau busnes a elwir ynfreemium a rhanwedd (shareware).
Yn y byd cyhoeddi traddodiadol, efallai mai'r hyn sy'n cyfateb orau i radwedd yw taflen a rennir yng nghanol y dref i ddenu cwsmer i siop datŵ: mae'r ffurflen bapur ei hun am ddim, ond nid yw'r hawl gennych i'w gopio na chyfrinach gwneuthuriad y papur na'r inc.