Safle'r pencadlys yn Nwyrain Berlin | |
Enghraifft o'r canlynol | gweinidogaeth y DDR, heddlu cudd, asiantaeth cudd-wybodaeth |
---|---|
Daeth i ben | 1990 |
Dechrau/Sefydlu | 8 Chwefror 1950 |
Olynwyd gan | Federal Office for the Protection of the Constitution |
Yn cynnwys | Q113679709, Q117006002 |
Lleoliad yr archif | Stasi Records Agency |
Isgwmni/au | Main Directorate for Reconnaissance, Felix Dzerzhinsky Guards Regiment, Q103783631, Q190287, Q113679709, Q117006002 |
Pencadlys | Dwyrain Berlin |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Weinyddiaeth Diogelwch Gwladol (Almaeneg: Ministerium für Staatssicherheit; talfyriad: MfS), neu'r Stasi oedd gwasanaeth diogelwch y wladwriaeth a heddlu cudd Dwyrain yr Almaen rhwng 1950 a 1990.
Roedd swyddogaeth y Stasi yn Nwyrain yr Almaen (y DDR) yn debyg i swyddogaeth y KGB yn yr Undeb Sofietaidd, yn yr ystyr ei fod yn gwasanaethu i gynnal awdurdod y wladwriaeth a safle'r blaid oedd yn rheoli, sef Plaid Undod Sosialaidd yr Almaen (Sozialistische Einheitspartei Deutschlands neu SED). Cyflawnwyd hyn yn bennaf trwy ddefnyddio rhwydwaith o hysbyswyr sifil a gyfrannodd at arestio tua 250,000 o bobl yn Nwyrain yr Almaen.[1] Roedd ganddo hefyd lu parafilwrol elitaidd mawr, Catrawd Gwarchodlu Felix Dzerzhinsky, a wasanaethodd fel ei adain arfog. Ei harwyddair oedd "Tarian a chleddyf y Blaid" (Almaeneg: Schild und Schwert der Partei).
Cynhaliodd y Stasi hefyd ysbïo a gweithrediadau cudd eraill y tu allan i Ddwyrain yr Almaen trwy ei wasanaeth cudd-wybodaeth dramor, y Swyddfa Rhagchwilio, neu Brif Swyddfa A (Almaeneg: Hauptverwaltung Aufklärung neu HVA). Roedd ei hysbyswyr sifil hefyd yn cynnal cysylltiadau ac yn cydweithredu o bryd i'w gilydd â therfysgwyr Gorllewin yr Almaen.[2]
Roedd pencadlys y Stasi yn Nwyrain Berlin, gyda chyfadeilad helaeth yn Berlin-Lichtenberg a nifer o gyfleusterau llai ledled y ddinas. Erich Mielke oedd pennaeth y sefydliad am y rhan fwyaf o'i hoes, rhwng 1957 a 1989 — 32 o 40 mlynedd bodolaeth y DDR. Enillodd yr HVA, dan arweiniad Markus Wolf rhwng 1952 a 1986, enw fel un o asiantaethau cudd-wybodaeth mwyaf effeithiol y Rhyfel Oer.[3][4]
Ar ôl ailuno'r Almaen rhwng 1989 a 1991, erlynwyd rhai o gyn-swyddogion y Stasi am eu troseddau[5] a chafodd y ffeiliau gwyliadwriaeth roedd y Stasi wedi'u cadw ar filiynau o ddinasyddion Dwyrain yr Almaen eu agor i'r cyhoedd fel y gallai pob dinesydd archwilio eu ffeiliau personol ar gais. Asiantaeth Cofnodion y Stasi oedd yn cadw'r ffeiliau tan fis Mehefin 2021, pan ddaethant yn rhan o Archifau Ffederal yr Almaen.