Victorinus | |
---|---|
Ganwyd | 3 g Gâl |
Bu farw | 271 Colonia Claudia Ara Agrippinensium |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol, yr Ymerodraeth Alaidd |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Conswl Rhufeinig, Emperor of the Gallic Empire |
Mam | Vitruvia |
Plant | Victorinus Junior |
Marcus Piav(v)onius Victorinus (bu farw 271) oedd ymerawdwr yr Ymerodraeth Alaidd rhwng 269 a 271.
Roedd Victorinus i bob golwg o deulu cyfoethog, ac yn filwr galluog. Wedi marwolaeth Marius yn hydref 269, cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr. Ni dderbyniwyd ef yn Hispania, a ddychwelodd at yr Ymerodraeth Rufeinig.
Yn 270, penderfynodd dinas Augustodunum Haeduorum (Autun) ddychwelyd at yr Ymerodraeth Rufeinig hefyd. Gosododd Victorinus warchae ar y ddinas, a'i chipio wedi 7 mis o warchae. Dychwelodd Victorinus i'w brifddinas, Cwlen, ond yn nechrau 271 llofruddiwyd ef gan un o'i swyddogion.
Olynwyd ef gan Tetricus I, a wnaed yn ymerawdwr gan fam Victorinus, Victoria.