Crefydd baganaidd fodern ydy Wica, ac enw arall ar y grefydd ydy "y Grefft."[1] Yn ôl ysgolheigion crefydd, mae Wica yn fudiad crefyddol newydd, a datblygwyd y grefydd o esoteriaeth y gorllewin yn Lloegr yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, a chyflwynwyd hi i'r cyhoedd ym 1954 gan Gerald Gardner, a oedd yn was sifil wedi ymddeol o Loegr. Mae Wica yn seilio ei chredoau ar hermetigiaeth yr 20fed-ganrif ac ar baganiaeth hynafol ar gyfer ei defodau a'i diwinyddiaeth. Ymunodd Doreen Valiente â Gardner yn y 1950, a datblygodd hi gredoau, egwyddorion, ac ymarferion Wica ymhellach, drwy gyhoeddi llyfrau a dysgeidiaethau llafar ac ysgrifenedig cyfrinachol i ddilynwyr y grefydd.
Ers ei sefydlu, bellach mae sawl math o Wica, a elwir yn draddodiadau, gan gynnwys Wica Gardneraidd ac Wica Alecsandraidd, sef y ddau brif draddodiad. Er hynny, nid oes gan Wica awdurdodaeth ganolog, ac o'r herwydd, weithiau ceir anghytuno ar gynifer o faterion pwysig. Mae rhai traddodiadau, fel Wica Draddodiadol Brydeinig, yn cadw'n dynn at linach Gardner.
Mae addoli Duwies a Duw yn nodwedd bwysig yn Wica, a'u haddolir fel Duwies y Lleuad a'r Duw Corniog yn draddodiadol. Creda rhai Wiciaid mewn diwinyddiaeth holldduwiaethol, tra bod eraill yn dilyn amldduwiaeth, monyddiaeth, neu fonyddiaeth y dduwies.
Mae Wiciaid yn dathlu gweddau'r lleuad, a elwir yn esbatau, lle anrhydeddir y Dduwies, a gweddau'r haul sydd yn wyliau tymhorol, a elwir yn sabatau, lle anrhydeddir y Duw Corniog. Ceir testun y'i hystyrir yn sanctaidd gan gynifer o draddodiadau Wicaidd o'r enw'r Cyngor Wicaidd, ond nid ydy pob traddodiad yn ei ystyried yn sanctaidd. Mae Wica yn cynnwys ymarfer hudoliaeth a gwrachyddiaeth.