Ffisegydd damcaniaethol a anwyd yn yr Almaen oedd Albert Einstein (14 Mawrth 1879 – 18 Ebrill 1955) (Almaeneg: [ˈalbɐrt ˈaɪnʃtaɪn] (gwrando)). Einstein yw un o brif wyddonwyr y byd ac ef yw awdur y damcaniaethau: Perthnasedd cyffredinol a Pherthnasedd arbennig. Cafodd ei waith ddylanwad enfawr ar athroniaeth gwyddoniaeth. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei hafaliad E = mc2 (a ddisgrifiwyd fel "hafaliad enwoca'r byd"). Yn 1921 derbyniodd Wobr Nobel mewn Ffiseg am ei "wasanaeth i Ffiseg ddamcaniaethol", yn enwedig am ei ddarganfyddiad 'yr effaith ffotodrydanol' (photoelectric effect) a oedd yn garreg filltir yn esblygiad ei ddamcaniaeth cwantwm. Ganwyd Einstein yn Ulm, Teyrnas Württemberg, yr Almaen a bu farw yn Princeton, New Jersey yn yr Unol Daleithiau. O gychwyn ei yrfa mewn ffiseg, credodd Einstein fod 'mecaneg Newton' yn annigonol i brofi mecaneg glasurol parthed y maes electromagnetig, ac ymaflodd yn y gewaith o ddatblygu 'Damcaniaeth perthnasedd arbennig' ond cyn hir sylweddolodd y gall damcaniaeth perthnasedd hefyd gael ei ymestyn i feysydd disgyrchiant. Datblygodd hyn oll, gan gyhoeddi papur yn 1916 ac yna ei waith ar berthnasedd cyffredinol. Datblygodd hefyd ei syniadau ar fecaneg ystadegol a damcaniaeth cwantwm, a chyhoeddodd ei syniadau ar ddamcaniaeth gronynnau a moleciwlau symudiad (Brownian motion). Ymchwiliodd i briodweddau tymheredd golau, a ffurfiodd y syniadau hyn gongl-faen ei theori o ffotonau golau. Yn 1917 cymhwysodd ei ddamcaniaeth perthynasedd cyffredinol i strwythurau enfawr y bydysawd. Pan ddaeth Adolf Hitler yn Ganghellor yr Almaen yn 1933 roedd Einstein yn teithio Unol Daleithiau America; gan ei fod yn Iddew nid aeth yn ôl i'r Almaen, ble roedd yn Athro Prifysgol yn Academi Gwyddoniaethau Berlin. Ymgartrefodd yno gan ddod yn ddinesydd o UDA. Rhybuddiodd yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt o'r posibilrwydd o "ddatblygu bom pwerus iawn" gan annog ymchwil i hynny. Ychydig wedi hyn lansiwyd "The Manhattan Project". Roedd Einstein o'r farn y dylid amddiffyn 'y Cynghreiriaid' ond ciliodd oddi wrth y syniad o ddefnyddio ei ddarganfyddiad newydd (Ymholltiad niwclear) fel arf. Yn ddiweddarach, gyda Bertrand Russell, arwyddodd faniffesto (Russell–Einstein Manifesto) a oedd yn cadarnhau peryglon arfau niwclear. Ym 1905, blwyddyn a ddisgrifir weithiau fel ei annus mirabilis ('blwyddyn y wyrth'), cyhoeddodd Einstein bedwar papur arloesol. Roedd y rhain yn amlinellu damcaniaeth yr effaith ffotodrydanol, yn esbonio'r mudiant Brownian, yn cyflwyno perthnasedd arbennig, ac yn dangos cywerthedd màs-ynni. Credai Einstein na ellid cysoni deddfau mecaneg glasurol bellach â deddfau'r maes electromagnetig, a arweiniodd ato i ddatblygu ei ddamcaniaeth arbennig o berthnasedd. Yna ymestynnodd y ddamcaniaeth i feysydd disgyrchiant; cyhoeddodd bapur ar berthnasedd cyffredinol yn 1916, yn cyflwyno ei ddamcaniaeth disgyrchiant. Ym 1917, cymhwysodd ddamcaniaeth gyffredinol perthnasedd i fodelu strwythur y bydysawd. Parhaodd i ddelio â phroblemau mecaneg ystadegol a damcaniaeth cwantwm, a arweiniodd at ei esboniadau o ddamcaniaeth gronynnau a mudiant moleciwlau. Ymchwiliodd hefyd i briodweddau thermol golau a damcaniaeth cwantwm ymbelydredd, a osododd sylfaen damcaniaeth ffotonau golau. Ganed Einstein yn Ymerodraeth yr Almaen, ond symudodd i'r Swistir yn 1895, gan gefnu ar ei ddinasyddiaeth Almaenig (fel dinesydd Teyrnas Württemberg) y flwyddyn ganlynol. Ym 1897, yn 17 oed, cofrestrodd ar y rhaglen diploma addysgu mathemateg a ffiseg yn ysgol polytechnig Ffederal y Swistir yn Zürich, gan raddio yno yn 1900. Yn 1901, cafodd ddinasyddiaeth Swisaidd, a gadwodd weddill ei oes, ac yn 1903 cafodd swydd barhaol yn Swyddfa Batentau'r Swistir yn Bern. Yn 1905 dyfarnwyd PhD iddo gan Brifysgol Zurich. Ym 1914, symudodd Einstein i Berlin er mwyn ymuno ag Academi Gwyddorau Prwsia a Phrifysgol Humboldt Berlin. Yn 1917, daeth Einstein yn gyfarwyddwr Sefydliad Ffiseg Kaiser Wilhelm; daeth hefyd yn ddinesydd Almaenig eto, Prwsia y tro hwn.