Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhynglywodraethol |
---|---|
Label brodorol | Asia-Pacific Economic Cooperation |
Dechrau/Sefydlu | 6 Tachwedd 1989 |
Aelod o'r canlynol | Awstralia, Brwnei, Canada, Indonesia, Japan, De Corea, Maleisia, Seland Newydd, y Philipinau, Singapôr, Gwlad Tai, Unol Daleithiau America, Taiwan, Hong Cong, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mecsico, Papua Gini Newydd, Tsile, Periw, Rwsia, Fietnam |
Gweithwyr | 50 |
Pencadlys | Singapôr |
Enw brodorol | Asia-Pacific Economic Cooperation |
Gwladwriaeth | Singapôr |
Gwefan | https://www.apec.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydliad rhyngwladol sy'n trefnu cynadleddau i drafod masnach rydd rhwng 21 o wledydd ar ymylon y Môr Tawel yw APEC (Cydweithrediad Economaidd Asia a'r Cefnfor Tawel).[1] Sefydlwyd ym 1989 i greu bloc masnachol o economïau cyd-ddibynnol y Cefnfor Tawel; i wrthbwyso dominyddiaeth Japan ar economi Dwyrain Asia; ac i sefydlu marchnadau newydd y tu hwnt i Ewrop am gynnyrch amaethyddol a defnyddiau crai.[2]
Cynhelir cyfarfod blynyddol gan bob aelod yn eu tro, a fynychir gan holl benaethiaid llywodraethol yr aelod-wladwriaethau ac eithrio Taiwan (a gynrychiolir gan weinidog a elwir yn "arweinydd economaidd Taipei Tsieineaidd").[3] Traddodiad gan yr arweinwyr yn y mwyafrif o gynadleddau yw gwisgo gwisg genedlaethol y wlad sy'n cynnal y cyfarfod y flwyddyn honno.