Academi Bangla

Academi Bangla
Enghraifft o'r canlynolrheoleiddiwr iaith Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1955 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadDirector General of Bangla Academy Edit this on Wikidata
PencadlysDhaka Edit this on Wikidata
GwladwriaethBangladesh Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://banglaacademy.gov.bd/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adeilad yr Academi Bangla yn Dhaka

Asiantaeth iaith (neu fwrdd iaith) genedlaethol sy'n hyrwyddo'r iaith Fengaleg (Bangla) ym Mangladesh yw'r Academi Bangla (Bengaleg: বাংলা একাডেমী ; Saesneg: Bangla Academy). Cafodd ei sefydlu ar 3 Rhagfyr 1955. Lleolir ei phencadlys yn Nhŷ Burdwan ar gampws Prifysgol Dhaka, ger Parc Ramna yn Dhaka, prifddinas Bangladesh.

Sefydlwyd yr Academi yn dilyn cyfnod o ymgyrchu am hawliau ieithyddol gan fudiadau protest fel Bhasha Andolon ac addewid cyn etholiad 1954 gan y Ffrynt Unedig i greu'r ganolfa. Dywedodd eu maniffesto: "The prime minister from the United Front will dedicate the Bardhaman House for establishing a research centre for Bengali language".[1]

Prif orchwyl yr Academi yw cynnal gwaith ymchwil ar yr iaith Fengaleg, a'i diwylliant a hanes, a chyhoeddi gwaith llenyddol ac academaidd amdanynt. Mae wedi sefydlu Gwobr yr Academi Bangla, a roddir yn flynyddol am gyfraniadau llenyddol ac academaidd yn yr iaith.

I goffhau Bhasha Andolon a Diwnrod Merthyron yr Iaith, mae'r Academi yn cynnal Ffair Lyfrau Ekushey, y ffair lyfrau fwyaf yn y wlad, sy'n rhedeg am fis bob blwyddyn.

  1. Mamun, Muntasir (Ionawr 2004) [1993] (Mewn Bengaleg). Dhaka: Smriti Bismritir Nogori (3ydd argraffiad, 4ydd argraffiad). Dhaka, Bangladesh: Ananya Publishers. tud. 178–180.

Developed by StudentB