Darn o'r Historia Brittonum yn Llawysgrif Harley 3859. Ffolio 188b, ll'au 1-25. | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Rhan o | Harley MS 3859 |
Iaith | Hen Gymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1100, 1200 |
Lleoliad yr archif | llyfrgell Brydeinig |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Casgliad o achresau Hen Gymraeg yw Achresau Harley (Saesneg: Harleian genealogies) sydd i'w cael yn Llawysgrif Harley 3859 (Harleian MS 3859) yn y Llyfrgell Brydeinig ac sy'n rhan o'r casgliad o lawysgrifau cynnar a elwir yn Gasgliad Harley (Harleian Collection). Maent yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes Cymru cyn cyfnod y Normaniaid.