Adam Small | |
---|---|
Ganwyd | 21 Rhagfyr 1936 Wellington |
Bu farw | 25 Mehefin 2016 Tref y Penrhyn |
Dinasyddiaeth | De Affrica |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Roedd Adam Small (21 Rhagfyr 1936 – 25 Mehefin 2016) yn llenor a dramodydd o Dde Affrica ac yn un o gynrychiolwyr Affricaneg (Afrikaans) pwysicaf yn y mudiad Ymwybyddiaeth Ddu a gwrth-Apartheid. Daeth yn adnabyddus am ei gerddi a'i ddramâu. Yn ei waith llenyddol canolbwyntiodd ei waith a roi llais i brofiad y bobl lliw (y Kaapse Kleurlinge; Cape Coloureds) a'r gwahaniaethau a achoswyd rhwng y gwahanol bobloedd oedd yn siarad Afrikaans - gwynion a lliw - yn sgil polisiau a meddylfryd hiliol. Roedd hefyd yn delio â phynciau o dlodi a chamweddau. Gall ei lenyddiaeth fod yn ddychanol o'r byd o'i gwmpas.[1]