Adam Smith | |
---|---|
Ganwyd | Mehefin 1723 Kirkcaldy |
Bedyddiwyd | 5 Mehefin 1723 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Bu farw | 17 Gorffennaf 1790 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Addysg | Legum Doctor |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, awdur ffeithiol, athronydd, llenor, academydd, moesolwr Ffrengig, cyhoeddwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Theory of Moral Sentiments, The Wealth of Nations |
Prif ddylanwad | François Quesnay |
Tad | Adam Smith |
Mam | Margaret Douglas |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA), Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin |
llofnod | |
Athronydd o Albanwr oedd Adam Smith (16 Mehefin 1723 – 17 Gorffennaf 1790). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur dau lyfr, The Theory of Moral Sentiments (1759), a An Inquiry into the Nature and Causes of the Wealth of Nations (1776). Roedd yn un o sylfaenwyr astudiaeth economeg fel pwnc academaidd.
Ganed ef yn Kirkcaldy, Fife, Yr Alban; nid oes sicrwydd am ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ef ar 5 Mehefin 1723. Aeth i Brifysgol Glasgow yn 14 oed, lle astudiodd athroniaeth foesol. Yn 1740 aeth i Goleg Balliol, Rhydychen.
Yn 1748 dechreuodd roi darlithoedd cyhoeddus yng Nghaeredin, a daeth i adnabod David Hume. Yn 1751 daeth yn Athro rhesymeg ym Mhrifysgol Glasgow. Cyhoeddodd The Theory of Moral Sentiments yn 1759. Ymddangosodd The Wealth of Nations yn 1776, a gwnaeth ei awdur yn enwog.
Ystyrir ef yn un o brif gefnogwyr y syniad o Laissez-faire a'r farchnad rydd; gyda'r egwyddor fod system ecomomaidd lle mae pawb yn dilyn ei les ei hun yn arwain at fwy o gyfoeth i bawb.