Adolf Hitler | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ebrill 1889 Adolf-Hitler-Geburtshaus, Braunau am Inn |
Bedyddiwyd | 22 Ebrill 1889 |
Bu farw | 30 Ebrill 1945 o anaf balistig Führerbunker, Berlin |
Man preswyl | Berghof, Führerbunker, Barackenkasernement Oberwiesenfeld, Hitler's Munich apartment, Wolf's Lair, Neue Reichskanzlei, Kransberg Castle |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | milwr, arlunydd, ysgrifennwr gwleidyddol, gwleidydd, cadlywydd milwrol, llenor |
Swydd | Reich Chancellor, Reichsstatthalter, Arlwywydd yr Almaen, aelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, member of the Reichstag of Nazi Germany |
Adnabyddus am | Mein Kampf |
Prif ddylanwad | Paul Devrient, Georg Ritter von Schönerer, Karl Lueger, Karl Hermann Wolf, Leopold Poetsch, Dietrich Eckart, Max Erwin von Scheubner-Richter, Alfred Rosenberg, Houston Stewart Chamberlain, Richard Wagner |
Taldra | 174 centimetr, 175 centimetr |
Pwysau | 72 cilogram |
Plaid Wleidyddol | German Workers' Party, Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Tad | Alois Hitler |
Mam | Klara Pölzl |
Priod | Eva Braun |
Partner | Maria Reiter, Eva Braun, Geli Raubal |
Llinach | teulu Hitler |
Gwobr/au | Iron Cross 2nd Class, Wound Badge (1918) in Black, honorary citizen of Sankt Andreasberg, honorary citizen of Goslar, Collar of the Imperial Order of the Red Arrows, Bathodyn y Parti Aur, Honour Cross of the World War 1914/1918, Blood Order, honorary citizen of Trier, Time Person of the Year, Military Merit Order, honorary citizen of Coburg, dinasyddiaeth anrhydeddus, dinasyddiaeth anrhydeddus, Iron Cross 1st Class, Y Groes Haearn, Imperial Order of the Yoke and Arrows, Urdd yr Eliffant |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Datblygu Rhyfela | |
HWB | |
Cytundeb Versailles | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Roedd Adolf Hitler (20 Ebrill 1889 – 30 Ebrill 1945) yn arweinydd Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol (Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei) yn yr Almaen (a adnabyddwyd fel y Blaid Natsïaidd) ac yn nes ymlaen daeth yn Ganghellor ac yna Führer yr Almaen gyfan (und Reichskanzler (arweinydd a changhellor) yr Almaen. Ef sefydlodd y Drydedd Reich (1933–1945).
Ei ymgais i greu Almaen Fwy (Großdeutschland) gan ddechrau drwy uno Awstria â'r Almaen, a goresgyniad Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl oedd wrth wraidd yr Ail Ryfel Byd.
Roedd ganddo ef a'i blaid bolisi pendant o wrth-Semitiaeth a arweiniodd yn y pendraw at ymgais i ddileu'r Iddewon yn gyfan gwbl o Ewrop. Dyma oedd Yr Holocost.[1] O dan arweinyddiaeth Hitler roedd y Natsïaid yn gyfrifol am hil-laddiad tua 6 miliwn o Iddewon a miliynau o ddioddefwyr eraill.
Ar 30 Ebrill 1945 cyflawnodd hunanladdiad, gyda’i wraig, Eva Braun, drwy gymryd gwenwyn a saethu ei hun yn ei fyncer o dan y Canghellordy yn Berlin.