Mae Adroddgan (Eidaleg: recitativo) [1] yn gerddoriaeth sy'n dweud stori'n eithaf cyflym, fel pe bai'n cael ei siarad. Mae'r gair yn golygu: "i adrodd" er enghraifft i adrodd stori. Gan nad oes unrhyw elfen barddonol i adroddgan megis odl neu rhythm gellid adroddganu unrhyw beth, er enghraifft yr erthygl hon.
Defnyddir adroddgan mewn operâu, oratorïau a chantatau. Pan ddyfeisiwyd opera tua 1600 roedd angen i'r cyfansoddwyr ddweud y stori mewn cerddoriaeth. Wrth adroddganu, mae'r stori yn cael ei ganu yn gyflym, gyda dim ond harpsicord sy'n chwarae ychydig o gordiau. Ar ôl ychydig o adroddganu bydd y stori wedi symud yn ei flaen a gall y cantorion troi at ganu aria sy'n fwy diddorol a chyffrous.
Pan fydd adroddgan yn cael ei gyfeilio gydag offeryn bysellfwrdd yn unig, fe'i gelwir yn "recitativo secco" (adroddgan sych). Weithiau mae'r gerddorfa yn cyfeilio, gelwir hyn yn "recitativo accompagnato" (adroddgan i gyfeiliant). Nid oes unrhyw linellau bar mewn adroddgan gan nad oes curiad rheolaidd. Weithiau bydd cyfeiliant harpsicord adroddgan yn cael ei chwarae'n fyrfyfyr. Mae adroddgan yn gerddorol syml, er hynny mae'n gallu cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd diddorol neu ddifyr.
Yn y 19 ganrif diflannodd y gwahaniaeth rhwng Aria ac adroddgan yn raddol. Ysgrifennodd Wagner operâu lle roedd gan bopeth ddiddordeb cerddorol ac roedd yr adrannau'n llifo i mewn i'w gilydd.
Mae'r term adroddgan yn cael ei ddefnyddio yn achlysurol ar gyfer yr arfer litwrgaidd o ganu geiriau o'r Salmau, yr Efengylau a'r Epistolau Beiblaidd, ond fel arfer bydd y term llafarganu yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg ar gyfer y cyd-destun crefyddol.