Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Bas-Congo |
Gwlad | Angola, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Gweriniaeth y Congo, Sambia |
Uwch y môr | 32 metr |
Cyfesurynnau | 6.075°S 12.45°E |
Tarddiad | Rhayadr Boyoma, Afon Lualaba |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Llednentydd | Afon Inkisi, Afon Kasai, Afon Lefini, Sangha, Afon Ubangi, Afon Tshuapa, Afon Lomami, Afon Lualaba, Afon Chambeshi, Afon Lukuga, Afon Luvua, Afon Aruwimi, Itimbiri River, Luvu, Alima, Afon Ambe, Afon Lulonga, Ikelemba, Kasuku, Afon Kwilu, Afon Lilo, Afon Lindi, Afon Lowa, Lufimi, Afon Lwika, Afon Maiko, Afon Motua, Afon Mongala, Afon M'pozo, Afon Ndjili, Afon Nsele, Ruki, Afon Ulindi, Afon Lukunga, Likouala-Mossaka, Afon Nkeni, Kambu, Likouala-aux-Herbes, Gobari |
Dalgylch | 401,450,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 4,700 cilometr |
Arllwysiad | 41,800 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yng nghanolbarth Affrica yw Afon Congo, a adwaenid am gyfnod fel 'Afon Zaire'[1]. Mae yn 4,700 km (2,922 milltir) o hyd; yr ail-hwyaf o afonydd Affrica ar ôl Afon Nîl. Yn nalgylch y Congo y ceir yr arwynebedd ail-fwyaf o fforest law yn y byd, ar ôl dalgylch Afon Amazonas; ac mae hefyd yn ail yn y byd ar ôl yr Amazonas o ran y dŵr sy'n llifo ynddi, 41,800 m³/.
Hi hefyd yw'r afon ddyfna'r byd, gyda dyfnderoedd sy'n fwy na 220 m (720 tr).[2] Mae gan system Afon Congo-Lualaba-Chambeshi hyd o 4,700 km (2,920 milltir), sy'n ei gwneud y nawfed afon hiraf y byd. Mae'r Chambeshi yn un o lednentydd Afon Lualaba, a Lualaba yw enw Afon Congo i fyny'r afon o Rayadr Boyoma, sy'n ymestyn am 1,800 km (1,120 milltir). O'r ffynhonnell i'w haber, mae'r brodorion Bantu yn byw ers canrifoedd.
Caiff yr afon ei henw o hen Deyrnas y Congo, oedd yn yr ardaloedd o gwmpas aber yr afon. Caiff Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a Gweriniaeth y Congo eu henwau o'r afon. Y gwledydd eraill o fewn dalgylch yr afon yw Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Angola, Sambia a Tansanïa. Mae'n tarddu yn ucheldiroedd Dwyrain Affrica, yn cynnwys yr afonydd sy'n llifo i Lyn Tanganyika a Llyn Mweru, lle tardda Afon Lualaba. Islaw Rhaeadr Boyama, caiff yr enw Afon Congo.
Llifa'r afon tua'r gorllewin o Kisangani islaw'r rhaeadr, yna tua'r de-orllewin heibio Mbandaka, lle mae Afon Ubangi yn ymuno. Mae'n mynd heibio Kinshasa, Brazzaville a Rhaeadrau Livingstone cyn cyrraedd Môr Iwerydd ger Muanda.