Afon Dwyfach

Afon Dwyfach
Mathnant Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.917172°N 4.28459°W Edit this on Wikidata
Map

Afon yng Ngwynedd yw Afon Dwyfach. Ei hyd yw tua 8 milltir. 'Dwyfech' oedd yr hen ffurf ar yr enw, a chymerodd y bardd Morus Dwyfech (Morus ap Dafydd ab Ifan ab Einion: bl. 1523–1590) ei enw barddol ohoni.

Tardda'r afon mewn cors eang ym mhlwyf Clynnog nepell o Fwlch Derwin. Llifa i gyfeiriad y de heibio pentrefi bychain Bryncir, Glan Dwyfach, a Rhoslan. Rhed yr A487 ar hyd ei glan ddwyreiniol rhwng Clynnog Uchaf a Glan Dwyfach.

Tua milltir o'r môr mae Afon Dwyfor yn ymuno â hi, ychydig cyn iddi gyrraedd y môr i'r de o bentref Llanystumdwy ac i'r gorllewin o dref Cricieth, gan aberu ym Mae Tremadog.

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Developed by StudentB